Gorilla Group TV

Tŷ ôl-gynhyrchu yw Gorilla wedi ei leoli yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn y cyfryngau darlledu a ffilm.

Mae ein cyfleuster ym Mae Caerdydd yn meddu ar 40 stiwdio Avid – gan gynnwys y consol sain Avid S6 cyntaf yng Nghymru – stiwdio Graddio Baselight a stiwdio dybio Pro Tools gyda ADR/VO.

Mae ein portffolio o’n gwaith i gleientiaid yn cynnwys chwaraeon, drama, dogfennau ac adloniant ar gyfer rhai o ddarlledwyr mwyaf y DU.